Lluniau Arferol a Chwyddiadau
Lluniau Arferol a Chwyddiadau





Mae ein gwasanaeth printio lluniau a chwyddo lluniau yn darparu printiau o safon ragorol yn ogystal â chynnig gwerth eithriadol. Mae pob archeb yn cael ei phrintio gan aelod o’r tim sydd yn sicrhau bod yr ansawdd gorau yn cael ei gyflawni pob tro.
Oes gennych chi gannoedd os nad miloedd o luniau yn eich ffôn clyfar, cyfrifiadur, tabled neu gerdyn cof? Argraffwch nhw nawr a’u trysori am flynyddoedd a chenedlaethau i ddod.
Bydd ein gwasanaeth yn diwallu anghenion pawb o’r tynnwr lluniau ffôn clyfar i’r ffotograffydd brwd.
- Prisiau yn cychwyn o gyn lleied â 19c yr un
- Gorffeniad sgleiniog neu di-sglein
- Bordor gwyn yn opsiynol
- Papur lluniau safonol 250gsm
- Argraffu â llaw – yn sicrhau’r ansawdd gorau
Prisiau Printiau
Maint / Nifer | 1-9 | 10-29 | 30-49 | 50-99 | 100+ |
4"x6" (10x15cm) / 4"x5" (10x12cm) / 4"x4" (10x10cm) / 3.5"x5" (8.9x15cm) | 50p | 39p | 30p | 20p | 19p |
5"x7" (12x18cm) / 5"x5" (12x12cm) / 5"x7.5" (12x19cm) | 80p | 65p | 50p | 35p | 32p |
6"x8" (15x20cm) / 6"x9" (15x22.5cm) / 6"x6" (15x15cm) | £1.00 | 90p | 80p | 70p | 55p |
Maint / Nifer | 1-3 | 4-10 | 11-20 | 21+ |
8"x8" (20x20cm) / 8"x10" (20x25cm) | £4.00 | £3.50 | £3.25 | £3.00 |
8"x12" (20x30cm) / A4 | £4.50 | £4.00 | £3.50 | £3.25 |