Telerau ac Amodau
- Derbyn Archebion
Dim ond yn unol â’r amodau canlynol y caiff archebion eu derbyn a’u prosesu. Drwy ddefnyddio’r feddalwedd CARUFFOTOS mae’r cwsmer yn derbyn yr amodau hyn yn llwyr. Ar ôl prosesu’r archeb, caiff y ffeil a ddarperir gan y cwsmer ei chadw ar weinydd CARUFFOTOS am tua 28 Diwrnod. Gwneir hyn er mwyn i’r cwsmer fedru archebu copïau ychwanegol o’r cynnyrch yn ddiweddarach, gan gydymffurfio’n llawn â’r GDPR
- Hawlfraint
Y cwsmer sy’n gyfrifol am gynnwys y ffeil a ddarperir. Nid yw CARUFFOTOS yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys y ffeil. Mae CARUFFOTOS yn tybio bod gan y cwsmer yr hawlfraint ar gyfer y ffeil. Y cwsmer yn unig sy’n gyfrifol am unrhyw ganlyniadau sy’n deillio o ddefnyddio data a ddiogelir yn anghyfreithlon. Yn ogystal, rhaid i’r cwsmer gydymffurfio’n gaeth â rheoliadau cyfreithiol y wlad dan sylw wrth osod yr archeb a dosbarthu’r deunydd printiedig.
- Atebolrwydd
Nid yw CARUFFOTOS yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddifrod neu golli’r ffeiliau mewn unrhyw achos. Mae CARUFFOTOS yn datgan yn glir na all ansawdd yr argraffiadau, llyfrau lluniau, argraffiadau cynfas a rhoddion lluniau neu unrhyw gynnyrch ffotograffig arall byth fod yn well na’r hyn y mae’r cwsmer yn ei weld ar sgrin y cyfrifiadur. Erys atebolrwydd CARUFFOTOS yn gyfyngedig i wallau cynhyrchu y gellir eu hosgoi.
- Amser Dosbarthu
Bydd pob archeb yn cael ei chynhyrchu o fewn 2 ddiwrnod gwaith o dderbyn y taliad. Ni chaiff unrhyw oedi o ran amser dosbarthu dan unrhyw amgylchiadau gyfiawnhau canslo’r archeb nac unrhyw hawl i gael iawndal. Bydd unrhyw archeb am dros 2500 o brintiau digidol yn cael ei ystyried yn ansafonol. Gall archebion argraffu ansafonol gymryd amser ychwanegol i gael eu hargraffu a’u dosbarthu – hyd at 2 ddiwrnod. Gall niferoedd ansafonol gael eu gwrthod yn ôl barn y rheolwyr.
- Dychwelyd Eitemau a Chanslo
Wrth osod archebion am nwyddau a gwasanaethau ar y Rhyngrwyd, yn gyffredinol byddai gennych yr hawl i ganslo eich archeb, yn rhad ac am ddim, drwy roi rhybudd o fewn 4 awr i’r archeb. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol pan fydd y gwasanaeth a archebir yn cael ei gychwyn ar unwaith. Rydych, trwy hyn, yn cydsynio i wasanaethau ar-lein CARUFFOTOS gychwyn ar unwaith a thrwy hynny ni fydd gennych hawl i ganslo eich archebion. Byddwn, yn naturiol, yn gwneud ein gorau i roi’r gorau i gynhyrchu archeb os byddwch yn cysylltu â ni’n gyflym. Oherwydd natur bersonol rhoddion lluniau, cardiau cyfarch, llyfrau lluniau ac argraffiadau personol ni allwn gynnig ad-daliadau ar yr eitemau hyn, ac eithrio pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Dylid dychwelyd cynhyrchion y bernir eu bod yn ddiffygiol o fewn pythefnos i’w derbyn. Gellir rhoi ad-daliadau yn ôl disgresiwn y rheolwyr; os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom. Nid yw’r cymal hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
- Gwarant
Rhaid rhoi gwybod am bob hawliad, i’r graddau y maent yn ymwneud â diffyg clir, o fewn dau ddiwrnod ar ôl i archeb y cwsmer gael ei dosbarthu. Yn achos cwyn ddilys, cyfyngir y datrysiad i gynhyrchu’r archeb eto.
- Defnydd Anghyfreithlon
Rydych yn gwarantu na fyddwch yn defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau at unrhyw ddiben twyllodrus neu anghyfreithlon ac na fyddwch yn cyflwyno unrhyw ddelwedd sydd:
- yn anghyfreithlon, pornograffig, anweddus, difenwol, sarhaus, anllad, yn wrthun mewn ffordd arall neu’n niweidiol i blant (neu sy’n darlunio niweidio plant) mewn unrhyw ffordd; neu
- yn gyfystyr â throsedd, yn cynorthwyo neu’n annog trosedd, yn torri hawliau unrhyw barti, neu a fyddai fel arall yn creu atebolrwydd neu’n torri unrhyw gyfraith leol, wladwriaethol, genedlaethol neu ryngwladol; neu
- yn torri unrhyw batent, nod masnach, cyfrinach fasnach, hawlfraint neu hawl ddeallusol neu berchnogol arall sydd gan unrhyw barti; neu
- yn defnyddio’r gwasanaeth i drosglwyddo neu wahodd mynediad i unrhyw ddelweddau a ddisgrifir ym mharagraffau (a) hyd (c) uchod
- ac rydych yn ymrwymo ac yn derbyn y byddwch yn atebol am unrhyw gamau a gymerir yn erbyn CARUFFOTOS mewn perthynas â gweithgareddau o’r fath ac y byddwch yn indemnio CARUFFOTOS yn llawn yn erbyn yr holl gamau gweithredu, hawliadau, gofynion neu gostau a allai godi o ganlyniad.
- Oedran
Rydych yn gwarantu ac yn ymgymryd eich bod yn 16 oed o leiaf ac mai chi yw perchennog awdurdodedig manylion y cerdyn credyd/debyd yr ydych yn eu cyflenwi i CARUFFOTOS.
- Pris / Manyleb
Mae pob archeb a gludir o fewn Treth Ar Werth y DU ar gyfradd bresennol y DU. Bydd y costau postio a phecynnu wedi eu rhestru ar wahân lle bo’n briodol. Ni fydd CARUFFOTOS yn atebol am unrhyw drethi neu dollau eraill y gellir eu gosod arnoch a byddwch yn parhau i fod yn gwbl gyfrifol amdanynt. Mae prisiau a manylebau’n agored i newid heb rybudd o dan unrhyw amgylchiadau ac eithrio pan fydd archeb wedi’i dderbyn gan CARUFFOTOS. Mae’r pris prynu’n daladwy yn y siop neu ymlaen llaw drwy gerdyn credyd/debyd. Rydym yn cadw’r hawl i gyfeirio at eich darparwr cerdyn credyd/debyd ac unrhyw fanc neu asiantaeth gwirio credyd arall.
- Ad-daliadau a Diddymiadau
Ni ellir canslo na dychwelyd cynhyrchion wedi’u personoli gan eu bod wedi’u creu i’ch gofyniad/dyluniad penodol chi. Unwaith y bydd unrhyw archeb wedi ei gosod, mae hi’n archeb derfynol. Ni ellir gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r cynlluniau unwaith y bydd yr archeb wedi ei gosod. Am fod ein proses yn cynnwys lefel mor uchel o awtomeiddio, gynted ag y gosodir archeb ni ellir ei chanslo na’i newid. Ni all unrhyw roddion sydd wedi’u teilwra i’r cwsmer gael eu dychwelyd i gael ad-daliad oni bai bod problem gyda’r cynnyrch, ac ni allwn ailargraffu’r eitem.