Ffrâm Lluniau Gwydr

Ffrâm Lluniau Gwydr

Mae ein Fframiau Lluniau Gwydr yn ffordd daclus o gyflwyno unrhyw lun. Fe’u gwneir o wydr o ansawdd uchel sy’n cael ei gynnal gan wialen alwminiwm.

Mae’r cynnyrch yn cynnig gorffeniad llun gwych yn ogystal â lliwiau cywir a bywiog. Gwneir yr eitem â llaw gan aelod o’n tîm. Byddai’r ffrâm yn edrych yn dda mewn unrhyw ystafell yn y tŷ yn ogystal â desg yn y gwaith, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Gellir defnyddio lluniau o gyfryngau cymdeithasol neu eu storio’n lleol i greu’r eitem hon. Mae ein system archebu’n caniatáu ichi fewngofnodi i’ch proffil cyfryngau cymdeithasol i ddefnyddio eich lluniau fel y mynnwch.

  • Panel Gwydr
  • Gorffeniad Bywiog
  • Anrheg wych neu gofrodd

Manylion

Maint

Pris

7"x5" (18x13cm)

£14.99

10"x8" (25x20cm)

£19.99