Amdanom Ni
Helo!
Sefydlwyd CARUFFOTOS yn ystod Haf 2020. Mae perchennog y busnes Dewi Wyn a’i deulu wedi bod yn y busnes ffotograffiaeth, prosesu lluniau ac anrhegion lluniau ers 1995.
Mae’r wefan newydd hon wedi’i sefydlu i gyd-fynd â’r gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a’r safonau cynhyrchu uchel a gynigiwn i’n cwsmeriaid yn ein siop ym Mhwllheli. Nid oes unrhyw beth yn rhoi mwy o bleser i ni na chynhyrchu printiau o ansawdd ac anrhegion lluniau o’ch atgofion gwerthfawr, rhyfeddol a hardd.
Beth mae prynwyr blaenorol yn ddweud?
Cylch Allwedd
Proses gyfylym iawn o archebu i dderbyn. Eitem gwych, fuaswn yn prynu eto. Tad hapus iawn ar Sul y Tadau!
Clustog Collage
Dim ond eisiau dweud fod y glustog wedi cyrraedd, mae’n wych! Caru fo!! Methu cwyno dim, gwasanaeth gwych!
Blociau Lluniau
Dim ond eisiau diolch yn fawr am y Blociau Lluniau, edrych yn wych! Dwi’n hapus iawn gyda nhw, diolch!
Panel Lluniau
Gwerthwr da iawn. Gwasanaeth cyflym iawn! Cynnyrch gwych, falch iawn o dderbyn cynnyrch o ansawdd fel hyn.